Cystadleuaeth i dynnu ffotograffau o bensaernïaeth Cymru yr 20fed Ganrif
Am lawer o’r 20fed ganrif, aeth grŵp o benseiri ati i ddiffinio pensaernïaeth newydd i Gymru. O adeiladau dinesig mawreddog i ymagweddau newydd at dai, cymerodd y penseiri hyn ysbrydoliaeth o fudiadau dylunio byd-eang i ddiffinio pensaernïaeth unigryw i Gymru.
Rydym ni’n chwilio am ddelweddau sy’n cipio peth o stori’r adeiladau a’r strwythurau hyn. Gallai’r stori honno ymwneud â pherthynas y bensaernïaeth â’i defnyddwyr, ei chyd-destun corfforol, natur, neu ddiwylliant a gwleidyddiaeth gyfoes. Nid yw’r gystadleuaeth hon yn ymwneud â gallu technegol y ffotograffydd, ond yn hytrach y gallu i gyfleu syniad drwy un ffrâm.
Os nad ydych chi’n siŵr ble i ddechrau, dyma fap rhyngweithiol sy’n rhoi manylion rhai o’r adeiladau hyn. Nid rhestr gyflawn sydd yma, ac rydym ni’n annog pob ymgeisydd i wneud tipyn o ymchwil a dod o hyd i’r gemau sydd yn eich ardal chi. Sylwch y gall nifer o’r adeiladau hyn sefyll ar eiddo preifat, a chyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw sicrhau bod ganddynt unrhyw ganiatadau angenrheidiol i dynnu a rhannu eu delweddau.
​
​
Rheolau
1. Rhaid i’r ddelwedd gynnwys adeilad neu strwythur a adeiladwyd rhwng 1900 a 1999 yng Nghymru. Gall delweddau gael eu cipio ar unrhyw ddyfais neu gamera a dylent gael eu lanlwytho i’ch cyfrif Instagram gan dagio @DC.ffoto a defnyddio’r hashtag #DCffoto. Yna byddwn yn ail-bostio ceisiadau i gyfrif Instagram @DC.ffoto.
2. Rhaid i gapsiwn y ddelwedd gynnwys enw’r adeilad, ei ddylunwyr a blwyddyn ei godi os yw’n hysbys, yn ogystal ag un frawddeg, yn Gymraeg neu Saesneg, sy’n datgan pam y dewisoch chi’r cyfansoddiad penodol hwnnw i ddweud stori’r adeilad hwnnw.
3. Rydym ni’n annog addasu lliw, amlygiad a thocio’r ddelwedd os yw’n helpu i gyfathrebu’r syniad. Nid yw trin cynnwys y ffoto yn cael ei ganiatáu.
4. Mae croeso i ymgeiswyr gyfrannu mwy nag un ddelwedd, a ddylai gael eu cyflwyno fel postiadau ar wahân.
5. Os nad oes gennych chi gyfrif Instagram, yna e-bostiwch geisiadau at designcircle.rsawsouth@gmail.com.
6. Rhaid bod gan ddelweddau gydraniad o 8 megapicsel o leiaf. Cadwch fersiwn wreiddiol heb ei golygu o unrhyw ddelwedd rydych chi’n eu cynnig.
Gwobrau
Caiff yr enillwyr eu penderfynu gan banel o feirniaid.
Gwobr Gyntaf: £300
Ail Wobr: £150
Trydedd Gwobr: £50
Mae’n bosib hefyd y bydd detholiad o ddelweddau’n cael eu cynnwys mewn arddangosfeydd a llyfr a gyhoeddir yn y dyfodol, a byddwn yn cysylltu â chyfranwyr y delweddau hynny ymlaen llaw. Drwy ymgeisio i’r gystadleuaeth rydych yn cydsynio i Design Circle ddefnyddio’ch delwedd/au yn y modd hwn.
Darllenwch y telerau ac amodau llawn hefyd cyn ymgeisio.
​
Telerau ac Amodau
-
Mae’r gystadleuaeth ar agor i bob oedran; ond os ydych o dan 14 mlwydd oed bydd angen caniatad eich rhiant neu warcheidwad I dderbyn gwobr.
-
Mae’r holl wybodaeth sy’n disgrifio sut i ymgeisio i’r Gystadleuaeth hon yn ffurfio rhan o’r telerau ac amodau hyn. Un o amodau ymgeisio yw bod yr holl reolau’n cael eu derbyn fel bod yn derfynol a bod yr ymgeisydd yn cytuno i barchu’r rheolau hyn. Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebu yn ei gylch yn digwydd. Cymerir bod cyflwyno cais yn golygu eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn.
-
Dwy ffordd sydd o ymgeisio i’r Gystadleuaeth hon, sef: drwy e-bost at designcircle.rsawsouth@gmail.com neu drwy Instagram gan ddefnyddio’r tag @DC.ffoto a #DCffoto. Rhaid i geisiadau gael eu labelu gydag enw’r adeilad a’i ddylunydd. Gresynwn nad ydym yn gallu derbyn ceisiadau drwy’r post.
-
Rhaid i bob cais ddod i law erbyn yr amser a’r dyddiad cau sy’n cael eu hysbysebu. Gall yr amser a’r dyddiad cau sy’n cael eu hysbysebu gael eu newid yn ôl disgresiwn Design Circle.
-
Rhaid i bob delwedd sy’n cael ei chyflwyno fod yn waith yr unigolyn sy’n ei chyflwyno a rhaid nad yw’r ddelwedd wedi ennill mewn unrhyw gystadleuaeth ffotograffaidd arall.
-
Cyfrifoldeb pob ymgeisydd yw sicrhau bod unrhyw delweddau mae’n eu cyflwyno sy’n cynnwys person neu bersonau y mae’n bosibl eu hadnabod wedi cael eu tynnu gyda chaniatâd y person neu bersonau yn y llun ac nad ydynt yn amharu ar hawlfraint unrhyw drydydd partïon nac unrhyw gyfreithiau.
-
Cyfrifoldeb pob ymgeisydd yw sicrhau ei fod yn parchu unrhyw gyfyngiadau sydd ar waith ar y pryd mewn perthynas â lleihau taeniad Covid-19.
-
Rhaid i ymgeiswyr warantu mai eu gwaith eu hunain yw’r ffotograff maent yn ei gyflwyno ac mai hwy biau’r hawlfraint.
-
Bydd hawlfraint pob delwedd a gyflwynir am y Gystadleuaeth hon yn aros yn nwylo’r priod ymgeiswyr. Fodd bynnag, yng ngoleuni darparu’r Gystadleuaeth, mae pob ymgeisydd yn caniatáu trwydded fyd-eang, diwrthdro, barhaus i Design Circle i ddangos unrhyw rai neu bob un o’r delweddau a gyflwynir mewn unrhyw rai o’u cyhoeddiadau, eu gwefannau, eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, eu harddangosfeydd, a/neu unrhyw ddeunydd hyrwyddiadaol sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth hon.
-
Ni dderbynnir ceisiadau sy’n hwyr, yn annarllenadwy, yn anghyflawn, wedu eu hanharddu neu’n llygredig. Ni ellir derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros geisiadau a gollir ac ni fydd prawf o’u trawsyrru yn cael ei dderbyn fel prawf o’u derbyn. Rhaid peidio ag anfon ceisiadau drwy gyfrwng asiantaethau na thrydydd partïon.
-
Mae’n bosibl y bydd digwyddiadau’n codi sy’n golygu bod y Gystadleuaeth ei hun neu ddyfarnu’r gwobrau yn amhosibl oherwydd rhesymau sydd tu hwnt i roelaeth yr Hyrwyddwr ac yn unol â hynny gall yr Hyrwyddwr yn ôl ei ddisgresiwn llwyr amrywio neu ddiwygio’r Gystadleuaeth ac mae’r ymgeisydd yn cytuno na fydd unrhyw atebolrwydd ynghlwm wrth yr Hyrwyddwr o ganlyniad i hynny.